Ymateb S4C i Ymgynghoriad Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol: blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd

 

1.   Beth yw effaith pandemig COVID-19 ar hyn o bryd, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?

 

Does dim dadlau bod y pandemig wedi cael effaith ar y sector sgrin a darlledu Cymraeg. Mae’r sector wedi dygymod â’r heriau er mwyn parhau i greu cynnwys i gefnogi a diddanu’r gynulleidfa yn ystod y pandemig, ond mae effeithiau Covid-19 yn parhau i’w gweld.

 

Mae costau cynhyrchu yn gyffredinol wedi cynyddu yn sgil Covid-19 wrth i gynyrchiadau gael eu dileu neu eu gohirio ac hefyd wrth iddynt orfod gweithredu o fewn cyfyngiadau ffilmio tynn. Mae hyn ar draws pob genre ond yn enwedig felly ar gyfer drama oherwydd maint a chymhlethdodau cynhyrchu drama. Golygodd gorfod gohirio cynifer o gynyrchiadau yn ystod 2020 bod mwy o gynyrchiadau yn ffilmio ar yr un pryd yn 2021. Gyda phrinder gweithlu llawrydd eisoes yn bodoli cyn y pandemig, mae hyn wedi arwain at brinder pellach sydd wedi ei gwneud yn heriol iawn i gwmnïau staffio cynyrchiadau yn ogystal â chynyddu costau staffio oherwydd y prinder dewis yn y farchnad.

 

Er bod cyfyngiadau Covid-19 cyffredinol yng Nghymru wedi llacio, mae’r cwmnïau cynhyrchu sy’n creu cynnwys i S4C yn dewis i barhau i weithio o dan gyfyngiadau tynnach. Mae hyn er mwyn gwarchod staff a sicrhau bod modd ffilmio a chyflenwi cynnwys mewn pryd gan geisio gostwng y risg o staff craidd naill ai’n datblygu Covid neu’n gorfod hunan-ynysu. Ond golyga bod y costau ychwanegol sydd ynghlwm yn parhau.

 

Drwy Cymru Greadigol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyswllt, cydlynu a chefnogaeth ariannol a strategol i’r sector ers cychwyn y pandemig. Mae cynlluniau yswiriant i alluogi cynyrchiadau teledu i ffilmio wedi bod yn greiddiol ac fe gefnogodd Llywodraeth Cymru sefydlu’r cynlluniau hyn ar lefel y DU. Byddem yn eiddgar i’w gweld yn parhau er mwyn sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn gallu cael ei ffilmio tra bod Covid yn aros fel her.

Cefnogodd Llywodraeth Cymru statws sector allweddol i ddarlledu fel y gellid parhau i ffilmio i gefnogi’r gynulleidfa. Heb hyn, byddai hi wedi bod yn fwy heriol fyth i’r sector gyda dileu neu ohirio cynyrchiadau ar lefelau hyd yn oed yn uwch.

2.   Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?

 

Y prif feysydd y byddai S4C yn argymell y dylai’r pwyllgor eu hystyried yw:

 

·         amlygrwydd traws-lwyfan i gynnwys PSB yn y Gymraeg gan gynnwys ar-lein a dyfeisiau fel teledu clyfar;

·         sut i wella’r sefyllfa o ran cefnogi ac ariannu ffilmiau o Gymru am Gymru a thyfu sector sydd yn gynhaliol;

·         sut y gellir sicrhau cynnwys sydd yn gallu cael ei allforio/ werthu dramor gan gynyddu ymwybyddiaeth rhyngwladol o Cymru fel brand a lleoliad ffilmio;

·         sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi datblygu gweithlu dwyieithog  i’r sector sgrin. Mae prinder staff oherwydd llwyddiant y sector mewn drama yn enwedig – ond mae angen datblygu sgiliau cynhyrchu cynnwys digidol ar draws y sector hefyd;

·         sut i gefnogi ac annog creu cynnwys Cymraeg digidol a lleol;

·         sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad cynnwys ffeithiol a dogfennau i’r genres hyn dyfu a llwyddo i’r un graddau ag y mae drama o Gymru wedi gwneud;

·         sut y gellir cynyddu cynhwysiant a chreu cyfleoedd newydd i bobl sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ddod i weithio yn y diwydiant.

 

3.   Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

 

Dyw Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE heb effeithio yn uniongyrchol ar S4C hyd yma, ond mae effaith wedi bod ar y cwmnïau cynhyrchu.

 

Byddem am weld cynlluniau a chronfeydd ariannol i gefnogi creu cynnwys yn lle’r cynlluniau UE nad yw Cymru bellach yn gallu buddio ohonynt. Yn hanesyddol, mae rhain wedi bod yn ffynhonnell bwysig i helpu i ariannu cyfresi wedi eu cynhyrchu yng Nghymru ond gyda’r potensial i werthu’n rhyngwladol, e.e. cyfresi 1 – 3 o’r Gwyll/Hinterland. Ar hyn o bryd, does dim manylion penodol wedi eu cyhoeddi am gronfeydd yn y DU i gymryd lle’r cronfeydd Ewropeaidd fel y gronfa MEDIA, yr ERDF a’r ESF.

 

Byddai hefyd yn fuddiol petai modd i lywodraeth y DU ymdrin â’r materion canlynol:

-      Cwotâu o dan reolau Ewrop am ‘Weithiau Ewropeaidd’: mae yna bryder na fydd cynyrchiadau o’r DU yn parhau i gael eu trin fel ‘gweithiau Ewropeaidd’ at ddibenion y cwotâu a osodir ar ddarlledwyr yn Ewrop. Gallai hyn beryglu cyfleoedd i werthu cynnwys clyw-weledol o’r DU i Ewrop. 

Egwyddor ‘country of origin’: Mae llawer o gynnwys ar-alw S4C Clic ar gael ar-lein yn fyd-eang, gan gynnwys yn Ewrop.  Ar hyn o bryd, nid oes gan wledydd yr UE reolau sy’n atal S4C rhag gwneud Clic ar gael ar draws Ewrop, ond nid oes sicrwydd y bydd hyn yn parhau. Hoffem weld rheolau i warchod yr egwyddor ‘country of origin’ a fyddai’n sicrhau bod gwasanaethau fel S4C Clic yn medru parhau i gael eu darparu o’r DU mewn i Ewrop.

Catrin Hughes Roberts

24 Awst 2021